Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth
Dydd Mawrth 9 Mehefin 2015
12.15 – 13.15
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel
Cadeirydd: Llyr Gruffydd AC
Ysgrifenyddiaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru: Russel Hobson, Cadeirydd Gweithgor Defnydd Tir a Bioamrywiaeth Cyswllt Amgylchedd Cymru
Bioamrywiaeth a Senedd yr Alban
Cyflwyniad gan Andy Myles o Gyswllt Amgylchedd yr Alban ar ddull y sefydliad o ymgysylltu ag Aelodau o Senedd yr Alban mewn perthynas â materion bioamrywiaeth. Yn dilyn hynny, roedd trafodaeth ar ddeddfwriaeth ynghylch bioamrywiaeth yng Nghymru yn y dyfodol, yn dilyn Bil yr Amgylchedd.
Yn bresennol:
William Powell AC a Rosanna Raison, ymchwilydd
Andy Fraser – Llywodraeth Cymru
Dai Harris – Llywodraeth Cymru
Katy Orford – Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Iwan Ball – Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd
Annie Smith – RSPB Cymru
Llinos Price – RSPB Cymru
Peter Jones – RSPB Cymru
Steve Lucas – Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod
Natalie Buttriss – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent
Clare Reed – Y Gymdeithas Cadwraeth Forol/Cyswllt Amgylchedd Cymru
Damian Assinder – Llais y Goedwig
Scott Fryer – Ymddiriedolaethau Natur Cymru
James Byrne – Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Cyflwyniad gan Llyr Gruffydd AC
Cyflwyniad: Andy Myles
Hoffwn fynegi cyfarchion o'r Alban a dweud fy mod yn falch o gael y cyfle i ymweld â'r Senedd yn dilyn fy ymweliad diwethaf â Chaerdydd 20 mlynedd yn ôl.
Pan sefydlwyd Senedd yr Alban, roedd gan y gymdeithas ddinesig gryn ddiddordeb mewn ystyried y dull gorau o ymgysylltu. Ar y cychwyn, dilynwyd dull San Steffan. Fodd bynnag, edrychwyd ar fodelau eraill hefyd. Nod y gymuned bolisi oedd datblygu ymagwedd agored, hygyrch ac ymgynghorol. Roedd hwn yn fodel cyfranogol ond roedd yn seiliedig hefyd ar sefydliadau hirsefydledig yr Alban.
Gwrthododd y sector cyrff anllywodraethol amgylcheddol y model Grŵp Trawsbleidiol yn gyflym. Mae'r model hwn yn hawdd i'w weithredu yn San Steffan, gyda dros 1200 o Aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Fodd bynnag, nid oes digon o Aelodau yn Senedd yr Alban i wneud hynny. Mae maint yn gwneud gwahaniaeth. Mae dealltwriaeth bod gan Aelodau Senedd yr Alban arbenigedd mewn maes penodol ond bod angen help arnynt mewn meysydd eraill--bioamrywiaeth yn enwedig. Dyna'r hyn y gall Cyswllt Amgylchedd yr Alban ei ddarparu--cymorth ac arbenigedd o ran egluro pethau.
Nid oedd yr ymdrechion cychwynnol a wnaed yn y ddeng mlynedd gyntaf, pan oedd Senedd yr Alban yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth, yn llwyddiant ysgubol o ran ymgysylltu. Roedd Cyswllt Amgylchedd yr Alban yn canolbwyntio ar Wythnos Amgylchedd yr Alban, a gynhaliwyd yn Holyrood, ac ar gael Aelodau Senedd yr Alban i ymweld â safleoedd.
Bu'n rhaid i Gyswllt Amgylchedd yr Alban ailfeddwl. Mae gan yr Alban lawer o fywyd gwyllt. Mae'r Aelodau'n cynrychioli etholaethau neu ranbarthau, felly pam na ellid ennyn eu diddordeb mewn un rhywogaeth benodol? Dyna ble y ganed y syniad o Hyrwyddwyr Rhywogaethau. Cyn bod yn Hyrwyddwr Rhywogaeth, mae'r Aelod yn cael gwybodaeth am ble mae'r rhywogaethau yn ffitio, ynghyd â chyswllt â sefydliad perthnasol. Yna, gofynnir i'r Aelod feithrin y rhywogaeth honno mewn man priodol yn y Senedd. Mae 76 o'r 129 o Aelodau bellach yn Hyrwyddwyr Rhywogaethau. Rhoddodd Andy enghreifftiau o'r Aelodau hyn a sut y maent yn hyrwyddo eu rhywogaethau.
Y nod nesaf yw mynd a'r fenter ymhellach, gan weithio gyda Scottish Enterprise i ddatblygu Hyrwyddwyr Busnes, gweithio gyda Youth Link ar Hyrwyddwyr Ieuenctid, ac edrych ar Hyrwyddwyr Celf a Chrefft. Efallai y bydd y mentrau hyn yn gweithio, ac efallai na fyddant yn gweithio.
Trafodaeth
Annie Smith: Beth yw barn Llyr a Bill am y dull hwn o weithredu?
Llyr/Bill: Y tu hwnt i lefarwyr y pleidiau, mae Aelodau'r Cynulliad o dan lawer o bwysau amser o ran mynd i ddigwyddiadau fel digwyddiad heddiw. Mae cael amcanion cryno yn beth da, a byddem yn cefnogi'r fenter Hyrwyddwyr Rhywogaethau.
Andy: Rydym wedi ceisio dewis rhywogaethau y mae rhyw fath o fygythiad yn eu hwynebu, ond rydym wedi caniatáu i Aelodau Senedd yr Alban ddewis rhywogaeth os oeddent am wneud hynny hefyd.
Steve Lucas: Pa adnoddau sydd eu hangen i gynnal y fenter hon pan rydym yn pryderu ynghylch ein difodiant ein hunain?
Andy: Mae gan bum ystlum Hyrwyddwr Rhywogaeth yn yr Alban, ac mae un aelod o staff rhan amser yn gwneud y gwaith hwnnw. Mae'r fenter yn cael ei chynnal ar geiniog a dimai, gan ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan.
http://www.scotlink.org/work-areas/species-champions/
Lluniwyd y cynllun i beidio â bod yn feichus, gan ei fod yn ymwneud â gwybodaeth yn hytrach na phrosiectau neu bolisi.
Peter Jones: Mae llawer o bethau ym Mil yr Amgylchedd am ecosystemau ond nid oes llawer am rywogaethau.
Andy: Am y 10 mlynedd gyntaf, bu Senedd yr Alban yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth. Ers hynny, mae Cyswllt Amgylchedd yr Alban wedi canolbwyntio ar weithredu'r ddeddfwriaeth honno. Dyna sut y cafodd yr Hyrwyddwyr Rhywogaethau eu creu. Fel rhan o'r trafodaethau ar y cyfansoddiad, mae hyn wedi ein galluogi i symud y ffocws i ffwrdd o'r 'bobl' a thuag at yr hyn a olygir gan 'o'r Alban', sef y tir, yr awyr, y môr a'r rhywogaethau sy'n byw yma, yn ogystal â'r bobl. Mae hyn yn newid safbwynt o ran 'pwy' a 'beth' y mae cyfansoddiad yn ei wasanaethu: er enghraifft, wrth ddiwygio tir, mae angen ystyried beth sy'n byw ar y tir, yn ogystal â materion cymdeithasol neu economaidd.
Cafwyd trafodaeth bellach am ddatblygu cynaliadwy ac ystyr 'Twf Economaidd Cynaliadwy', sy'n rhan o Fil Diwygio Rheoleiddio yr Alban, ac agwedd Scottish Natural Heritage ac Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban.
Natalie Buttriss: A ydych yn defnyddio'r dull Hyrwyddwyr Rhywogaethau mewn modd cydweithredol ac a ydych yn dal i recriwtio Aelodau newydd o Senedd yr Alban?
Andy: Ydym, rydym yn dal i recriwtio Aelodau newydd ond nid ydym wedi dod â nhw ynghŷd, ac eithrio digwyddiadau arbennig fel ymweliadau safle.
Katy Orford: A oeddech yn canolbwyntio ar rywogaethau carismataidd, ac a wnaed cysylltiadau ag ecosystemau ehangach?
Andy: Yn bennaf, roeddem yn canolbwyntio ar rywogaethau ar y rhestr goch, gan ddewis rhai hyll ac amhoblogaidd yn benodol gan fod angen hyrwyddwyr arnynt. Cysylltwyd y fenter hon â materion ehangach fel mwsogl y gors rhydlyd, a oedd yn tynnu sylw at mawndiroedd pwysig yr Alban. Fodd bynnag, roeddem yn fodlon os oedd rhai Aelodau am gael pethau mwy cyffredin.
Camau i’w cymryd:
Bydd Cyswllt Amgylchedd Cymru yn datblygu dull Hyrwyddwyr Rhywogaethau ar gyfer y Cynulliad nesaf.
Cyfarod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Fioamrywiaeth
Dydd Mercher 21 Hydref, rhwng 12.15 a 13.15. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth y môr a deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ond nad yw eto wedi'i gweithredu'n llawn.